Ymgyrch i sicrhau pensiynau am oes i weddwon rhyfel

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant a Kath Webster
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Aelod Cynulliad Carl Sargeant wedi cefnogi ymgyrch Kath Webster

Mae teulu milwr o Sir y Fflint fu farw yn Rhyfel y Falklands wedi lansio ymgyrch yn galw i weddwon rhyfel dderbyn pensiwn am weddill eu bywydau.

Cafodd y Sarjant Malcolm Wigley o Gei Connah ei ladd ar 8 Mehefin 1982 wrth wasanaethu gyda'r Gwarchodlu Cymreig.

Bu'n rhaid i'w weddw, Kath Webster, roi'r gorau i gymryd o'r pensiwn ar ôl ailbriodi, ond dywedodd y dylai newid i'r rheolau - sy'n galluogi i weddwon sy'n ailbriodi barhau i gymryd o'r pensiwn - gael ei weithredu i bawb.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ei fod yn erbyn gwneud newidiadau eraill fel ei fod yn "fforddiadwy i'r trethdalwr".

'Annheg'

Mae Ms Webster nawr yn galw ar y llywodraeth i ddychwelyd y taliadau pensiwn gweddwon i'r rhai wnaeth ailbriodi cyn i'r rheol newydd ddod i rym.

"Mae'n annheg pan dy'ch chi'n meddwl bod gwragedd sy'n colli eu gwŷr nawr yn cael yr arian, ond dydyn ni ddim," meddai.

"Os dy'ch chi'n priodi eto, dy'ch chi'n dal yn weddw.

"Ni fyddai gweddw rhywun oedd yn gweithio yn y gwaith dur yn colli eu pensiwn pe baent nhw'n ailbriodi - dylai weithio yn yr un modd."

Mae AC Alun a Glannau Dyfrdwy, Carl Sargeant, wedi rhoi ei gefnogaeth i'r ymgyrch, gan ddweud bod gweddwon yn haeddu'r arian am weddill eu bywydau, "nid nes iddyn nhw ailbriodi'n unig".

Mae Ms Webster, ei mab a Mr Sargeant wedi lansio deiseb ac maen nhw'n apelio i weddwon eraill gysylltu gyda nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Fe wnaethon ni wrando ar ymgyrchwyr a newid rheolau'r cynllun pensiwn i alluogi i bensiynau gweddwon gael eu talu am oes i'r rheini wnaeth ailbriodi ar ôl 1 Ebrill 2015.

"Mae'n egwyddor sy'n bodoli ers peth amser, nad ydyn ni'n gwneud mwy o newidiadau i gynlluniau pensiwn fel eu bod yn parhau yn fforddiadwy i'r trethdalwr."