Cyhoeddi enw beiciwr gafodd ei ladd yn sir Caerffili
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw beiciwr 21 oed bu farw ar ôl gwrthdrawiad yn oriau man fore ddydd Mercher yn sir Caerffili.
Cafodd Dan Heyes, o Ystrad Mynach, ei ladd yn dilyn y digwyddiad yn Llanbradach.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd osgoi Llanbradach ar yr A469 am y gogledd tua 02:00.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â Volkswagen Panel a'r beiciwr, a fu farw yn y fan a'r lle, meddai Heddlu Gwent.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw dystion gysylltu â nhw ar 101