Heddlu'n rhyddhau data troseddwyr rhyw trwy gamgymeriad
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cael dirwy wedi i un o'u swyddogion anfon e-bost gyda gwybodaeth allai fod wedi arwain at adnabod troseddwyr rhyw.
Cafodd y neges ei hanfon trwy gamgymeriad at aelod o'r cyhoedd oedd yn rhan o gynllun cymunedol, wedi i'r enw anghywir gael ei ddewis oddi ar restr e-bost.
Mae'r llu wedi cydnabod y camgymeriad ac yn dweud bod gwelliannau wedi'u gwneud.
Roedd yr e-bost yn cyfeirio at wyth o bobl o Bowys, ac yn nodi eu henwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
Penderfynodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) bod yn rhaid i Heddlu Dyfed Powys dalu dirwy o £150,000.
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad nad oedd y llu wedi cyflwyno mesurau priodol i gadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
Roedd y rhestr cyfeiriadau a gafodd ei defnyddio i fod ar gyfer negeseuon e-bost mewnol, ond roedd yr ICO wedi canfod fod nifer o gysylltiadau allanol wedi cael eu hychwanegu.
Y sawl a dderbyniodd yr e-bost dan sylw oedd yr enw cyntaf ar y rhestr yn nhrefn y wyddor ac roedd wedi derbyn pum neges oedd i fod ar gyfer pobl eraill, dros gyfnod o bedwar diwrnod ym mis Ebrill 2015.
'Mater o amser'
Meddai'r Comisiynydd Cynorthwyol Anne Jones: "Roedd damwain fel hon ond yn fater o amser. Roedd y llu wedi colli cyfleoedd cynharach i ddelio â'r broblem, ac maen nhw nawr yn wynebu'r canlyniadau am y camgymeriad.
"Er bod hwn yn edrych fel camgymeriad dynol syml ar yr olwg gynta', daeth yn bosib oherwydd gwendid yn y system oedd y llu wedi cyflwyno i warchod manylion personol pobl.
"Mae'n stori bryderus, ac un fydd ddim yn helpu i dawelu meddwl y gymuned leol bod modd ymddiried yn eu heddlu i ofalu am wybodaeth sensitif."
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl dros dro, Heddlu Dyfed Powys, Liane James: "Rydym yn derbyn bod 'na gamgymeriadau wedi'u gwneud ac rydyn ni wedi gweithredu i gyflwyno'r newidiadau angenrheidiol i brosesau a systemau.
"Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau diogelwch y wybodaeth sydd ar gael i ni a byddwn ni'n parhau i ddysgu o hyn, nawr ac yn y dyfodol."