Pump newid i dîm Cymru i herio'r Crysau Duon

  • Cyhoeddwyd
Gethin Jenkins a Ken Owens
Disgrifiad o’r llun,
Mae Gethin Jenkins a Ken Owens ymhlith pump newid i'r tîm.

Mae hyfforddwr tim rygbi Cymru, Warren Gatland wedi cyhoeddi pump newid i'r tîm fydd yn wynebu Seland Newydd yn y gêm brawf gyntaf ddydd Sadwrn.

Fe fydd Gethin Jenkins a Ken Owens yn dechrau yn y rheng flaen.

Bydd Alun Wyn Jones yn cyrraedd carreg filltir arbennig ddydd Sadwrn drwy ennill ei ganfed cap - y pumed Cymro i wneud hynny.

Mae gan flaenasgellwr y Gleision, Ellis Jenkins obaith o ennill ei gap cynta. Mae e wedi ei gynnwys ar y fainc, ond does dim lle i'r clo, Luke Charteris.

Sam Warburton fydd y capten, yn dychwelyd i'r tîm am y tro cyntaf ers mis Mawrth ar ôl anafu ei ysgwydd.

Y tîm:

Liam Williams (Sgarlets), George North (Northampton Saints), Jonathan Davies (Clermont Auvergne), Jamie Roberts (Harlequins), Hallam Amos (Dreigiau), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Ken Owens (Sgarlets), Samson Lee (Sgarlets), Bradley Davies (Wasps), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ross Moriarty (Caerloyw), Sam Warburton (Gleision, CAPT), Taulupe Faletau (Dreigiau).

Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Rob Evans (Gweilch), Tomas Francis (Exeter Chiefs), Jake Ball (Sgarlets), Ellis Jenkins (Gleision), Gareth Davies (Sgarlets), Gareth Anscombe (Gleision), Scott Williams (Sgarlets).