Criced: Morgannwg yn curo Sussex o 84 o rediadau

  • Cyhoeddwyd
Chris CookeFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Chris Cooke yn sgorio 80

Cafodd tîm criced Morgannwg fuddugoliaeth arall yr wythnos hon ar ôl curo Sussex nos Fercher.

Fe guron nhw Sussex o 84 o rediadau yn Stadiwm Swalec yng nghystadleuaeth y Cwpan Undydd.

Cafodd Michael Hogan bedair wiced yn y fuddugoliaeth, gyda Morgannwg yn sgorio 302 am chwe wiced. Sgoriodd Chris Cooke 80 o rediadau oddi ar 67 pêl.

Roedd Morgannwg yn llwyddiannus nos Lun yn erbyn Swydd Gaerloyw, deiliaid y Cwpan Undydd. Enillon nhw o 52 o rediadau.