Corryn byw yng nghlust gwraig o Borthcawl
- Cyhoeddwyd

Cafodd corryn ei ddarganfod yng nghlust gwraig o Borthcawl pan aeth i'r ysbyty i gael triniaeth am glust tost.
Roedd Victoria Price, 42 oed, wedi bod yn dioddef o boen yn ei chlust am ddiwrnod ac yn amau haint neu bod pilen y glust wedi rhwygo.
Ond pan edrychodd ei gŵr Huw i mewn i'w chlust, gwelodd gorryn byw yno ac fe aeth â'i wraig i'r ysbyty.
Roedd Mrs Price, sy'n gweithio i Heddlu De Cymru, wedi bod yn nofio yn y môr. Ar ôl cael cawod, fe deimlodd boen wnaeth waethygu yn ystod y nos a thrannoeth.
'Poen ofnadwy'
Dywedodd Mrs Price: " Des i mas o'r gawod ac roedd y boen yn fy nghlust yn ofnadwy. O'n i ddim yn gwbod beth i wneud a'm hun."
Does gan Mrs Price ddim ofn pryfed cop ond doedd y nyrs wnaeth ei thrin yn ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhenybont ddim mor gyffyrddus pan fu raid iddi i dynnu'r corryn oedd yn gwingo.
Meddai Sarah Gaze: " Roedd y corryn i'w weld yn glir yng nghlust Victoria ac fe ddaeth allan yn hawdd. Ond roedd yn fyw ac yn gwingo llawer. Roedd e'n eithaf mawr- llawer yn fwy nag ar yr edrychiad cyntaf."