Achos landlord Abertawe: Tystiolaeth brawd

  • Cyhoeddwyd
Achos landlord
Disgrifiad o’r llun,
Alec Warburton (chwith) a David Craig Ellis.

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed tystiolaeth gan frawd i landlord gafodd ei ladd gan un o'i denantiaid.

Mae David Craig Ellis, 41 oed, wedi cyfaddef dynladdiad Alec Warburton yn ystod haf 2015, ond mae'n gwadu ei lofruddio.

Roedd Mr Warburton yn byw mewn fflat ar lawr uchaf tŷ thri llawr yr oedd yn ei berchen yn ardal Sgeti.

Clywodd y llys ddydd Iau fod ei frawd, Graham Warburton, sy'n byw yn ne Lloegr, wedi hysbysu'r heddlu ei fod ar goll ar 2 Awst 2015.

Siarad yn ddyddiol

Dywedodd Graham Warburton wrth y rheithgor y byddai'n siarad â'i frawd ar y ffôn bron bob dydd.

Dywedodd y byddai Alec yn siarad am rai o'i denantiaid a'u personoliaethau, a'i fod wedi crybwyll 'Dave' [David Ellis] fel rhywun yr oedd yn cael anhawster cael taliadau rhent cyson oddi wrtho.

Wrth ei ddisgrifio yn y llys fel person "manwl", dywedodd Graham Warburton y byddai ei frawd weithiau'n cwyno os nad oedd tenantiaid wedi golchi'r llestri.

Dywedodd mai'r tro olaf iddo siarad ag Alec oedd ddydd Iau 30 Gorffennaf. Clywodd y rheithgor iddo yna geisio cysylltu â'i frawd ddydd Sadwrn 1 Awst ond chafodd e ddim ateb.

Neges testun

Ar 2 Awst, dywedodd Graham Warburton iddo gysylltu â ffrind agos i'w frawd i ofyn a oedd wedi clywed ganddo, ond doedd hwnnw heb glywed dim. Dyna pryd y cysylltodd â'r heddlu.

Clywodd y rheithgor fod plismon wedi mynd i 60, Vivian Road y diwrnod hwnnw i weld a oedd Alec Warburton yn iawn.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, dywedodd Graham Warburton iddo gael neges testun o ffôn ei frawd yn gofyn: "Pam wyt ti wedi cysylltu â'r heddlu - rwy'n iawn." Roedd y neges hefyd yn dweud nad oedd eisiau'r heddlu yn busnesu pan roedd ganddo denantiaid yno.

Yn ôl Graham Warburton, roedd geiriad y negeseuon yn wahanol i'r hyn y byddai ei frawd Alec yn ei ddefnyddio. Ychwanegodd na fyddai fel arfer yn gorffen neges gyda'i enw.

Tystiolaeth tenantiaid

Hefyd ddydd Iau, clywodd y llys ddatganiadau gan denantiaid eraill 60, Vivian Road.

Dywedodd Christian Evans, oedd yn byw ar y llawr gwaelod, fod Mr Warburton yn ddyn preifat oedd yn treulio llawer o amser ar ei ben ei hun. Dywedodd hefyd ei fod yn ddyn trefnus iawn oedd ag OCD.

Honnodd hefyd ei fod wedi gweld nodyn yn y gegin i'r holl denantiaid, wedi ei arwyddo gan y landlord. Roedd y nodyn yn dweud fod Mr Warburton wedi gorfod mynd i ffwrdd i ofalu am gyfaill oedd â chanser, ac y byddai 'Dave' yn gyfrifiol am gasglu'r rhent. Dywedodd hefyd fod un o'r enwau ar y nodyn yn anghywir - roedd yn dweud Brenda yn lle Deborah.

Clywodd y llys fod Mr Warburton wedi gofyn unwaith i Mr Evans fod yn dyst iddo wrth iddo ofyn i Mr Ellis am arian rhent hwyr.

Mynegodd tenantiaid eraill eu hamheuaeth fod Mr Ellis wedi ei roi'n gyfrifol am gasglu'r rhent, oherwydd eu bod nhw'n ymwybodol o bryderon Alec Warburton ei fod ar ei hôl hi gyda'i daliadau.

Mae'r achos yn parhau.