San Steffan: Gwrthod galwad i ddefnyddio'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Tŷ'r Cyffredin wedi gwrthod galwadau i gael gwared ar y gwaharddiad ar siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd yn San Steffan.
Dywedodd y Ceidwadwr Chris Grayling wrth Aelodau Seneddol na fyddai'n "synhwyrol" i wario arian trethdalwyr ar adnoddau cyfieithu.
Ond ychwanegodd y byddai'r llywodraeth yn adolygu'r gwaharddiad os na fyddai AS newydd yn gallu siarad Saesneg.
Bu Mr Grayling yn ymateb i alwad gan AS Llafur y Rhondda Chris Bryant, awgrymodd y dylai aelodau allu siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd o'r Uwch Bwyllgor Cymreig.
Yn y cyfamser, mae AS Plaid Cymru Jonathan Edwards wedi cynnig cwestiwn Seneddol ar y gost o godi'r gwaharddiad. Bydd y cwestiwn yn cael ei gyflwyno ddydd Llun.
'Ystyried yn fanwl'
Fe ofynnodd Chris Bryant: "Rwy'n deall mai iaith y tŷ hwn yw Saesneg, ond Cymraeg yw mamiaith llawer o fy nghyd wladgarwyr ac etholwyr, felly onid ydi hi'n amser i ni ganiatáu'r Gymraeg yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig?"
Wrth ymateb, dywedodd Mr Grayling: "Rwyf wedi ystyried y mater yn fanwl. Yn fy marn i, o ystyried y ffaith mai Saesneg yw iaith y Tŷ, ac o ystyried y byddai'n costio trethdalwyr arian i'w newid ar hyn o bryd, os ydi rhywun yn cyrraedd y Tŷ sy'n methu siarad Saesneg mae'n bosib bydd rhaid i ni edrych ar y mater eto.
"Ond rwy'n credu ein bod wedi ystyried y mater yn ofalus iawn ac y dylen ni gadw'r drefn bresennol lle mai Saesneg yw iaith y Tŷ hwn."
Mae Aelodau Seneddol wedi gallu defnyddio'r Gymraeg pan mae'r Uwch Bwyllgor Cymreig wedi cyfarfod yng Nghymru.
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig hefyd wedi derbyn tystiolaeth yn Gymraeg yn San Steffan.
Cwestiwn ysgrifenedig
Mae AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards, wedi gofyn cwestiwn ysgrifenedig i Mr Grayling ynghylch y gost o gael gwared â'r gwaharddiad.
Mae'r cwestiwn yn gofyn pa asesiadau sydd wedi eu gwneud am y gost o ddarparu cyfieithu ysgrifenedig ag ar y pryd mewn Uwch Bwyllgorau Cymreig ar gyfer trafodaethau dwyieithog ac a fydd Mr Grayling yn cyhoeddi'r asesiadau hyn?
Fe wnaeth sylwadau Mr Grayling godi gwrychyn Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon.
Dywedodd Ann Clwyd wrtho: "Allai eich atgoffa bod rhai ohonom wedi cymryd llw wrth ymuno â'r Tŷ yn Saesneg ac yn Gymraeg a ga' i ofyn i chi edrych eto ar y cynnig i ddefnyddio'r Gymraeg yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig?
"Wnaeth rhai ohonom ni ddim siarad Saesneg tan ein bod yn bump oed ac mae'r rhan fwyaf ohonom ni yn ddwyieithog, ond er hynny, mae'r iaith Gymraeg a'i statws yn bwysig iawn."
Dywedodd Mr Grayling wrthi: "Wrth gwrs, rwy'n deall yn llwyr yr angen i amddiffyn yr iaith Gymraeg ac, ar draws gweinyddiaethau gwahanol dros y cenedlaethau, mae camau helaeth wedi eu cymryd er mwyn amddiffyn yr iaith Gymraeg, er mwyn ei gwneud yn rhan annatod o fywyd yng Nghymru.
"Fy nghwestiwn i chi ydi: mewn cyfnod o bwysau ariannol, ydi hi'n synhwyrol i ni ddefnyddio arian y trethdalwr mewn Tŷ lle mae'r brif iaith, yr iaith swyddogol, yw Saesneg, pan mae aelodau'r Tŷ yn gallu siarad yr iaith honno?
"Cyn belled mai dyna yw'r achos, rwyf wedi ei ystyried yn fanwl, ond dwi ddim yn meddwl y dylen ni newid pethau."
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu sylwadau Chris Grayling.
Dywedodd Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'n hawl ddynol sylfaenol i siarad Cymraeg, ac mae ei ddadl yn hurt ac yn anwybodus. Mae ef wedi dwyn anfri ar Senedd San Steffan, ei swyddfa a'i Lywodraeth. Bydd pobl Cymru yn clywed ei sylwadau ac yn dod i'r casgliad nad oes ots gan y Llywodraeth am y Gymraeg, iaith fyw hynaf Ewrop."