Yfed a gyrru: Heddlu'n ymgyrchu yn ystod Euro 2016
- Published
Mae ymgyrch gan yr heddlu i ddal gyrwyr dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn cael ei lansio ddydd Gwener i gyd-fynd â dechrau rowndiau terfynol Euro 2016.
Mae disgwyl i swyddogion atal miloedd o yrwyr yng Nghymru fel rhan o'r ymgyrch sy'n rhedeg tan 10 Gorffennaf.
Yn y cyfamser, mae cestyll a thirnodau Cymru yn cael eu goleuo yn goch ddydd Gwener i nodi'r ffaith fod Cymru'n chwarae mewn twrnamaint mawr am y tro cyntaf ers 58 o flynyddoedd.
Fe fydd gêm gyntaf Cymru ddydd Sadwrn yn erbyn Slofacia yn Bordeaux.
Bydd ardal cefnogwyr yng Nghaerdydd, gyda sgrîn fawr i gefnogwyr allu gwylio Cymru'n chwarae, a bydd lle ar gyfer 6,000 o gefnogwyr.
Cyhoeddodd Cyngor Abertawe y byddai cefnogwyr hefyd yn gallu gwylio gemau ar y sgrîn fawr yn Sgwâr y Castell yn y ddinas.
'Cynllunio ymlaen llaw'
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed Powys, Pam Kelly fod angen i bobl "gynllunio ymlaen llaw, gan nad oes esgus i yrru o dan ddylanwad".
"Rydym eisiau i bobl gael amser gwych ac i gefnogi Cymru.
"Ond mae 'na neges bwysig iawn hefyd, neges rydym am i bobl gofio, a hynny yw: Yn ystod y ddau fis nesaf, fe fydd y pedwar llu heddlu yng Nghymru yn mynd i fod yn ymroddedig i atal yfed a gyrru.
"Beth ydw i'n gofyn i bobl ei wneud yw gwneud dewis; dylent naill ai yfed neu yrru, Ni ddylid byth wneud y ddau."
Yn ystod ymgyrch diogelwch tebyg yng Nghymru yn 2015, cafodd mwy na 12,000 o brofion anadl eu cynnal, gyda bron i 8,000 o bobl yn cael eu harestio am yfed dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yng Nghymru a Lloegr.