Gwobr Daniel Owen: Heddlu'n dod â'u hymchwiliad i ben

  • Cyhoeddwyd
y fedal

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod eu hymchwiliad i gŵyn yn ymwneud â chynnwys darn a gyflwynwyd ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen y llynedd, wedi dod i ben.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Iestyn Davies ar y pryd fod y gŵyn a gafwyd yn "ymwneud â chynnwys y darn oedd o natur dramgwyddus ac anweddus" ac roedd yn cael ei ymchwilio fel trosedd dan y Ddeddf Cyfathrebiadau Anweddus.

Yn ôl un o feirniaid y gystadleuaeth ar y pryd, roedd y darn o waith gafodd ei gyflwyno yn "gyfres o ddelweddau pidoffilaidd".

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru na fydd y mater yn "destun i ymchwiliad pellach".

Gan mai i Swyddfa'r Eisteddfod yn yr Wyddgrug yr anfonwyd y gwaith, Heddlu Gogledd Cymru oedd yn arwain yr ymchwiliad.

Mae Gwobr Goffa Daniel Owen yn un o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Rhoddir gwobr o £5,000 am nofel yn Gymraeg sydd heb ei chyhoeddi o'r blaen.

Mae'r wobr er cof am y nofelydd Cymraeg Daniel Owen, a fu farw yn 1895.

Y tri beirniad oedd Dr Angharad Price, Dewi Prysor a Robert Arwyn.