Llwyddiant dyfarnwr yn cael ei gydnabod gan y Frenhines
- Cyhoeddwyd

Mae'r dyfarnwr Nigel Owens ymysg nifer o enwau ar restr anrhydeddau penblwydd y Frenhines eleni.
Fe fydd y dyfarnwr 44 oed sy'n gyfrifol am ei 71fed gêm brawf ddydd Sadwrn, yn derbyn yr MBE fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad i'r gamp.
Dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn "wylaidd ac yn anrhydedd go iawn " i dderbyn yr anrhydedd.
Mae'r Anrhydeddau Penblwydd Swyddogol eleni yn cydfynd â dathliadau penblwydd y Frenhines yn 90 oed.
Dechreuodd Nigel Owens o Fynyddcerrig, Sir Gaerfyrddin, ddyfarnu yn ei arddegau, ac fe ddatblygodd i fod yn ddyfarnwr proffesiynol.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc yn 2007, ac fe ddyfarnodd rownd derfynol Cwpan y Byd yn 2015.
Oddi ar y cae, mae Owens wedi cyfranu'n helaeth i fywyd y gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru, ac ar hyn o bryd mae'n un o noddwr yr elusen Bullies Out yng Nghymru.
Ymysg nifer o Gymry eraill fydd yn derbyn anrhydeddau mae:
- Is-gadeirydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, John Gwyndaf Ellis, sy'n derbyn yr OBE .
- Yr Athro Laura McAllister i dderbyn y CBE am ei gwasanaeth i chwaraeon yng Nghymru.
- Arwel Ellis Owen i dderbyn yr OBE am ei wasanaeth i wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
- John Derek Rowlands i dderbyn y BEM am ei wasanaethau elusenol yng Nghymru a thu hwnt.
- MBE i'r Athro Christopher Day am ei gyfraniad i fyd pensaerniaeth.