Cyn dditectif yn euog o dreisio dwy ddynes
- Cyhoeddwyd

Mae cyn dditectif gyda Heddlu De Cymru wedi'i gael yn euog o dreisio dwy ddynes.
Cafodd Jeffrey Davies, 45 oed, ei ddyfarnu'n euog yn Llys y Goron Casnewydd yn dilyn ymchwiliad gan y llu, dan arolygaeth Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.
Digwyddodd y troseddau yn 2002 a 2003 tra roedd yn heddwas yn y Rhondda.
Cafodd ei ddi-arddel o'r llu yn 2013 wedi iddo ei gael yn euog o droseddau rhyw eraill, ac fe ddaeth cwynion am y ddau achos o dreisio yn dilyn cyhoeddusrwydd i'r achosion hynny.
Dywedodd y Prif Uwch Arolygydd Dorian Lloyd, pennaeth adran safonnau proffesiynol Heddlu De Cymru: "Fe gymrodd fantais o'i swyddogaeth fel heddwas ac ni roddodd unrhyw ystyriaeth i'r effaith trawmatig yr oedd yn ei gael ar ei ddioddefwyr.
"Roeddynt yn ferched bregus oedd, yn dilyn dod ar draws Davies, wedi bod yn destun i fradychu ymddiriedaeth ofnadwy."
Dywedodd Comisiynydd Cwynion Annibynnol yr Heddlu dros Gymru, Jan Williams: "Roedd Jeffrey Davies yn droseddwr rhyw oedd yn cuddio o fewn gwasanaeth yr heddlu, oedd yn gyfrifol am dorri ymddiriedaeth sylfaenol yr oedd yn gyfrifol amdano fel heddwas."