Tŷ moethus ym Mhenarth yn dymchwel wrth cael ei adnewyddu
- Published
Mae tŷ moethus gwerth dros £800,000 wedi dymchwel yn ystod gwaith adnewyddu i ymestyn seler.
Fe ddechreuodd waliau cefn yr adeilad a`r to ddymchwel tua 10.43 bore Gwener yn Ffordd Clinton, Penarth.
Dywedodd y perchennog Sid Gautum, 36, sy`n feddyg cosmetig, ei fod yn creu mwy o le yn yr adeilad ar gyfer storio nwyddau a creu lle chwarae.
"Dwi`n lwcus bod blaen yr adeilad yn dal yn gryf, ond mae`r tu mewn wedi syrthio i mewn.
Dywedodd y perchennog ei fod wedi prynu`r adeilad ychydig flynyddoedd yn ôl a bod gwaith wedi dechrau yn ddiweddar.
Fe gafodd diffoddwyr tân a chwn eu hanfon i`r tŷ i sicrhau nad oedd unrhywun yn sownd o dan y rwbel a bod y gwasanaethau nwy a thrydan wedi eu diffodd.
Mae`r safle yn dal yn beryglus yn ôl rheolwr yr orsaf dan Jason Jones, ac fe fydd yna rwystrau yn cael eu gosod i sicrhau diogelwch.