M4: Cynlluniau yn 'ddinistr ecolegol'
Steffan Messenger
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae 10 o elusennau amgylcheddol blaenllaw wedi ysgrifennu llythyr agored at Ysgrifennydd Economi Cymru, yn gwrthwynebu'r cynlluniau presennol ar gyfer ffordd osgoi'r M4.
Maen nhw'n honni bod y cynllun gwerth biliwn o bunnau yn cynrychioli "dinistr ecolegol ar raddfa ddigynsail."
Byddai'r llwybr du, sy'n cael ei ffafrio gan y llywodraeth, yn torri drwy sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar Wastadeddau Gwent.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi'u hymrwymo i adeiladu'r draffordd newydd ond byddai ymchwiliad cyhoeddus yn "scriwtineiddio'r opsiynau."
Galw am ddileu'r cynlluniau
Llofnodwyd y llythyr gan gyfarwyddwyr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, Cyfeillion y Ddaear Cymru, RSPB Cymru, yr Ymgyrch dros Ddiogelu Cymru Wledig, Sustrans Cymru, yr Ymgyrch dros Well Drafnidiaeth, Coed Cymru, Buglife, Ymddiriedolaeth Ystlymod Cymru a Butterfly Conservation Wales.
Maen nhw'n honni y dylai "grym a sylwedd y dystiolaeth amgylcheddol yn unig" arwain y llywodraeth at ddileu eu cynlluniau presennol.
"Byddai'r cynefinoedd fydde'n cael eu colli, yn ogystal a'r effaith ar dirwedd a golygfeydd y Gwastadeddau yn greulon ac yn ddi-droi-nôl," meddai'r llythyr.
Mae'n dadlau y dylai'r arian fyddai'n cael ei fuddsoddi yn y llwybr du gael ei wario ar "drafnidiaeth cyhoeddus a gwell defnydd o'r rheilffyrdd i gludo nwyddau."
Byddai penderfyniad y llywodraeth i fwrw ymlaen â'r cynllun hefyd yn "brawf go iawn" o hygrededd eu cyfraith ar ddiogelu Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ôl yr elusennau.
"Byddai'n tanseilio polisiau'r llywodraeth a'i thargedau statudol ynglŷn â diogelu'r amgylchedd, lleihau allyriadau carbon, gwella ansawdd yr aer a iechyd y cyhoedd."
Mynnu bod y llywodraeth wedi ymrwymo i'r draffordd wnaeth Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates gan ddweud ei fod yn "allweddol i'r economi."
Ond dywedodd ei fod yn awyddus i "ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal cyn gynted a bod modd scriwtineiddio'r opsiynau sydd ar gael a gweld hefyd prun ai bod yna opsiynau arall hefyd allai weithio."
Mae copi o'r llythyr hefyd wedi'i anfon at y Prif Weinidog Carwyn Jones, Ysgrifennydd yr Amgylchedd Lesley Griffiths a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe.
Fis diwetha, datgelodd BBC Cymru fod y corff sy'n gyfrifol am yr amgylchedd - Cyfoeth Naturiol Cymru - hefyd wedi cyflwyno dogfen 95 tudalen o hyd yn gwrthwynebu'r cynlluniau fel ag y mae nhw ar hyn o bryd.