Ateb tymor hir i'r diwydiant dur yn 'hanfodol'
- Cyhoeddwyd

Mae`r Ysgrifennydd newydd yr Economi Ken Skates wedi galw am ateb tymor hir i`r argyfwng dur er mwyn amddiffyn swyddi yng Nghymru, waeth beth fydd penderfyniad cwmni Tata ar werthu ei safleoedd yn y DU.
Mae disgwyl i`r cwmni o India gyflwyno rhestr fer o brynwyr posib.
Ond mae yna hefyd ddyfalu y gallai`r cwmni fod yn ailystyried gwerthu eu safleoedd, gan gynnwys gwaith Port Talbot.
Yn ôl Ken Skates mae cael ymrwymiad tymor hir yn "ffactor hanfodol."
Blaenoriaeth glir
Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd mai`r flaenoriaeth glir fyddai sicrhau bod parhau gyda`r gwaith dur ym Mhort Talbot, sy`n cyflogi 4,000 o weithwyr, yn rhan o unrhyw gynllun busnes prynwr posib:
"Pe bai Tata yn penderfynu y gallen nhw barhau gyda`u busnes yn y tymor hir - dyna`r ffactor hanfodol - a pharhau i gynhyrchu dur, a sicrhau eu bod yn cymryd cyfrifoldeb llawn am bensiynau, yna fydden ni yn amlwg yn gallu ystyried hynny yn ddiweddglo llwyddiannus. "
Hyd yma dyw Tata ddim wedi cyhoeddi rhestr fer o brynwyr posib wrth i`r bwrdd gwrdd ym Mumbai.
Mae hynny wedi arwain at ddyfalu y gallai fod yna oedi i`r cynlluniau i werthu, neu fod Tata yn ystyried tynnu allan o`r broses a chadw`r busnes.
Mae Llywodraeth y DU yn trafod newid y rheolau fyddai`n caniatau i Tata newid amodau`r cynlluniau pensiwn.
Mae pris dur hefyd wedi dechrau codi.
Mae Tata ar hyn o bryd yn dal wedi ei ymrwymo i werthu`r busnes.
Roedd disgwyl tri phrynwr posib ar y rhestr fer; cwmniau Liberty, Excalibur ac Endless LLP gyda chefnogaeth Wilbur Ross o America.
Wrth ymateb dywedodd Adam Price, llefarydd busnes ag economi Plaid Cymru bod yna "amheuaeth" ymhlith y gweithwyr wedi i Tata wrthod cynllun yn gynharach i newid cyfeiriad, ac fe alwodd am eglurder ar y sefyllfa.