Pontydd Hafren: cynnal cyfarfod cyhoeddus
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Aelodau Seneddol yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun fel rhan o'u hymchwiliad i edrych ar ddyfodol pontydd Hafren.
Mae aelodau o'r Pwyllgor Materion Cymreig eisiau clywed am brofiadau gyrwyr sydd yn defnyddio'r pontydd.
Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi galw am reolaeth y pontydd i gael eu datganoli.
Mae'r ASau hefyd eisiau clywed unrhyw argymhellion gan ddefnyddwyr ynglŷn â beth allai wneud eu siwrnai yn haws.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghas Gwent.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David Davies AS: "Mi ydyn ni gam yn agosach at y pwynt pan fydd pontydd Hafren yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus ac mi ydyn ni'n teimlo bod hi'n bwysig deall sut mae'r rhai sydd yn eu defnyddio nhw yn ddyddiol yn teimlo am y gwasanaeth.
"Fe fyddwn ni hefyd yn edrych ar sut i'w gwella, gan gynnwys gosod system electronig talu o flaen llaw a sut i wella siwrnai pobl."
Fe fydd cynrychiolwyr o Gymdeithas Freight Transport yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor cyn y cyfarfod cyhoeddus.