Morgannwg yn llwyddo i drechu Caint o dair wiced

Criced

Yn y gêm Cwpan Undydd mi wnaeth Morgannwg lwyddo i drechu Caint o dair wiced.

Ar ôl ennill y tos penderfynu maesu wnaeth Morgannwg ac fe sgoriodd Caint 290 am dair wiced.

Er i Forgannwg eu hunain golli 7 wiced mi sgorion nhw 294. Eu harwr mawr oedd Colin Ingram wnaeth sgorio 95 heb fod allan oedd yn cynnwys chwe 6 a pedair 4.

Fe gyfrannodd David Lloyd 65 a Will Bragg 52.