'Sioc economaidd`: Rhybudd y Canghellor o adael yr UE

  • Cyhoeddwyd
Osborne

Mi fyddai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn achosi "sioc economaidd ddofn" ac yn peryglu'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Dyna oedd rhybudd y Canghellor, George Osborne tra ar ymweliad â'r gogledd.

Dywedodd y byddai swyddi miloedd yn y fantol ac y byddai prisiau tai yn gostwng.

Tra'n ymgyrchu ym Mhorthmadog fe addawodd y byddai dros 24,000 o swyddi yn cael eu creu yng Nghymru os bydd etholwyr yn penderfynu y dylai Prydain aros yn rhan o'r undeb.

Ond mae'r rhai sydd eisiau i Brydain adael yn dweud bod Cymru wedi cyfrannu mwy o arian i`r UE na`r hyn a gafwyd yn ôl ac mae grwp o economegwyr sydd o blaid gadael yn dadlau y byddai`r cam hwn yn hybu economi y DU.

'Dyfodol disglair'

Yn ogystal â thrafod y manteision o aros yn rhan o'r UE bydd George Osborne yn darogan y gallai Cymru fod mewn sefyllfa waeth pe byddai Prydain yn gadael.

Mi fydd yn dweud y byddai diweithdra yn codi a bod Cymru mewn sefyllfa fregus am fod diwydiannau fel twristiaeth ac amaethyddiaeth yn ddibynnol ar yr undeb ar gyfer masnachu.

Yn ôl y Canghellor: "Wrth i'n heconomi ni barhau i dyfu mae gan Gymru ddyfodol ddisglair ac mae disgwyl i 24,100 o swyddi gael eu creu os byddwn ni'n aros yn rhan o'r UE.

O'r diwydiant twristiaeth, i'r diwydiant cynhyrchu ac amaeth - mae Cymru yn cael budd masnachol o fod yn rhan o'r UE. Ond mi fyddai hyn i gyd mewn perygl os ydyn ni yn pleidleisio i adael."

'Cyfrannu mwy na derbyn yn ôl'

Wrth siarad ar ar raglen Radio Wales Good Morning Wales dywedodd Boris Johnson: "Mae Prydain wedi gwneud yn dda iawn wrth fasnachu ar draws y byd yn y blynyddoedd diwethaf. I ni wedi gweld ein siar o allforion i`r UE yn gostwng, ac yn rhyfedd iawn, gwledydd eraill sydd wedi gwneud yn well na ni am allforio i`r farchnad sengl er mai ni sy'n aelod."

Mae Cymru yn cael arian o`r Undeb Ewropeaidd, ond arian y DU yw hynny. Mae Cymru`n cyfrannu llawer mwy na`r hyn mae`r wlad yn ei gael yn ôl.

"Tua'r hanner i ni`n cael yn ôl yn y DU, mae hynny'n wir am Gymru hefyd."