'Adolygu`r dewis' i ysgolion Hwlffordd
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Cyngor Sir Penfro wedi gofyn i`r Cyfarwyddwr Addysg i "adolygu`r dewis" sydd ar gael i ddyfodol ysgolion uwchradd Hwlffordd.
Mae Jamie Adams am i`r adolygiad arwain at gynllun sy`n "adlewyrchu yn fwy eang, farn y rhai wnaeth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad statudol."
Fe ddaw y cais yn dilyn pleidlais ym mis Mai, lle cafodd cynlluniau i uno Ysgolion Tasker Millward a Sir Thomas Picton eu gwrthod gan gynghorwyr, oherwydd pryderon y byddai Coleg Penfro yn darparu addysg ôl 16 oed.
Mewn llythyr at Lywodraethwyr, Penaethiaid, Cynghorwyr ac ymddiriedolwyr elusen Tasker Millward a Picton, dywedodd y Cynghorydd Adams, ei fod wedi gofyn i Kate Evan-Hughes "adolygu`r 74 dewis gwreiddiol" ac i geisio dod o hyd i gynllun newydd, fyddai`n adlewyrchu`n well farn amrywiol y rhai wnaeth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad statudol.
Does dim disgwyl i ymgynghoriad newydd ar y pwnc orffen tan fis Mawrth 2017.