Marwolaeth landlord: 'Grym sylweddol'
- Cyhoeddwyd

Mae arbenigwr meddygol wedi disgrifio sut y bu farw Alec Warburton, landlord o Abertawe, ar ôl cael ei daro ag arf fel morthwyl.
Cafodd ei ladd ar ôl cael ergyd â "grym sylweddol i'w ben."
Wrth roi tystiolaeth yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd y patholegydd fforensig Dr Brian Rogers ei fod o'r farn bod Mr Warburton wedi marw yn syth ar ôl yr ymosodiad arno.
Yn ôl Dr Rogers: "Cafodd grym sylweddol ei ddefnyddio i ddyrnu twll yn ei benglog.
"Roedd y twll mawr yn ei ben yn anghymarus a bywyd."
'Doedd yna ddim tystiolaeth o anafiadau amddiffynnol meddai, a oedd yn awgrymu y cafodd yr ergyd ei daro o'r cefn, ond doedd dim sicrwydd o hyn.
Mae David Ellis yn gwadu llofruddio Mr Warburton ond mae wedi pledio yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad.
Cafwyd hyd i gorff Mr Warburton mewn hen chwarel gel Dolwyddelan ym mis Medi 2015.
Mae'r achos yn parhau.