Apêl Coleman i'r cefnogwyr

  • Cyhoeddwyd
cefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd 24,000 o Gymry yn dathlu yn y stadiwm yn Bordeaux

Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi rhybuddio cefnogwyr y tîm cenedlaethol i gadw draw o unrhyw drafferthion.

Fe ddaw ei sylwadau wrth i'r heddlu yn Ffrainc baratoi i dynhau mesurau diogelwch wrth i gefnogwyr Lloegr deithio i Lens.

"Fe fyddwn ni'n ymosod ar y cae ac fe ddylai unrhyw ymddygiad ymosodol aros ar y cae."

Dywedodd Coleman y dylai cefnogwyr Cymru fod yn "ofalus a chadw'n ddiogel."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhybuddio hefyd y dylai cefnogwyr heb docynnau gadw draw o Lens.

Roedd trafferthion difrifol yn Marsellie dros y penwythnos wrth i rai o gefnogwyr Lloegr ymladd ar strydoedd y ddinas, ac roedd yna drafferthion yn y stadiwm hefyd wrth i hwliganiaid o Rwsia ymladd yn erbyn cefnogwyr Lloegr.

Bydd Cymru yn wynebu Lloegr yn Lens ddydd Iau ar ôl y fuddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Slofacia yn Bordeaux.

Roedd yna ganmoliaeth i ymddygiad cefnogwyr Cymru, ond mae ofnau y gallai presenoldeb cefnogwyr Lloegr yn Lens achosi trafferthion pellach i'r awdurdodau.

Eisoes mae UEFA wedi rhybuddio y gallai Lloegr a Rwsia gael eu diarddel o Euro 2016 os oes rhagor o drafferthion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod ganddyn nhw bryderon hefyd am y sefyllfa.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref a Llysgennad Ffrainc i'r DU i fynegi'i bryder ynglŷn â'r trais yn Ffrainc dros y penwythnos.

"Mae wedi pwysleisio mai diogeli'r miloedd o gefnogwyr - yn cynnwys y Cymry sydd wedi teithio i Ffrainc i fwynhau'r pêl-droed yn heddychlon yw prifddyletswydd Gweinyddiaeth Fewnol Ffrainc."

Yn gynharach fe ddywedodd yr arbenigwr ar ddiogelwch, Dai Davies, wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru bod angen i'r heddlu yn Ffrainc "ail feddwl y strategy" a bod angen iddyn nhw wneud gwell defnydd o Europol a'r systemau cudd-wybodaeth.

Mae angen 'gwell presenoldeb' gan yr heddlu yno meddai.