Trywanu Llanedern: arestio 2 ddyn
- Published
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio gŵr yn Llanedern, Caerdydd, ddydd Sul.
Tua 19:00 fe alwyd yr heddlu i ddigwyddiad yn ardal Bryn Fedw yng ngogledd y ddinas ar ôl i ddyn gael ei drywanu.
Aeth parafeddygon ac ambiwlans awyr i'r digwyddiad hefyd ond bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Cadarnhaodd yr heddlu bod dau ddyn lleol 29 oed a 35 oed wedi eu harestio ac yn cael eu cadw yn y ddalfa, tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Dyw enw'r gŵr a fu farw ddim wedi'i gyhoeddi eto.
Dywedodd y cynghorydd lleol Joseph Carter: "Mae hwn yn drasiedi. Tra'n bod ni'n gyfarwydd â pheth ymddygiad gwrth- gymdeithasol, mae'n anarferol iawn i rywbeth mor ddifrifol â hyn ddigwydd yn ein cymuned.
"Dwi wedi siarad â'r heddlu lleol ac maen nhw wedi addo mwy o blismyn ar batrol."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Taclau ar 0800 555 111.