AS Ceidwadol i wrthwynebu Mesur Cymru
- Published
Dywed Aelod Seneddol Ceidwadol ei fod o'n bwriadu pleidleisio yn erbyn deddf newydd fydd yn rhoi mwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Bydd Aelodau Seneddol yn trafod Mesur Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth.
Mae'r Mesur yn rhoi'r hawl i'r Cynulliad godi trethi, a hynny heb yr angen am refferendwm ar y mater.
Ond yn ôl Chris Davies, AS Brycheiniog a Maesyfed, mae cynnal refferendwm ar bwerau trethi yn un o addewidion maniffesto'r Cediwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol.
Ychwanegodd nad oedd o'r farn fod pobl Cymru am weld mwy o bwerau yn cael eu datganoli.
Mae cais wedi ei wneud i Swyddfa Cymru am sylw.
Ymrwymiad maniffesto
Dywedodd Mr Davies: "Fe wnaethom ymrwymiad yn ein maniffesto.
"Pam na allwn ni ofyn i bobl Cymru beth maen nhw eisiau?"
"Pe bawn i'n cael fy mhrofi yn anghywir, digon teg, ond rwy'n teimlo na fyddai hynny'n digwydd.
"Rwy'n credu y byddaf yn pleidleisio yn erbyn y llywodraeth.
"Dwi'n meddwl, ar ôl 17 o flynyddoedd, nad yw'r Cynlluniad yn ymdopi yn dda gyda'r pwerau sydd ganddynt eisoes."