Hanner y trawsblaniadau'n rhai tybiedig
- Cyhoeddwyd

Mae dros hanner yr organau gafodd eu trawsblannu yng Nghymru ers i drefn newydd ddod i rym wedi eu rhoi drwy ganiatâd tybiedig.
Ers Rhagfyr 2015, oni bai fod rhywun yn nodi eu bod am eithrio o'r drefn, mae eu horganau ar gael i'w defnyddio.
Yn ôl y ffigyrau hyd at 31 Mai, roedd 32 o'r 60 o organau gafodd eu trawsblannu wedi dod o bobl oedd wedi rhoi caniatâd tybiedig.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud ddydd Mawrth fod y drefn newydd wedi achub dwsinau o fywydau.
Caniatâd tybiedig
Yn ôl y drefn yng Nghymru, mae pobl sy'n 18 neu'n hŷn ac wedi byw yng Nghymru ers dros 12 mis yn rhoi caniatâd tybiedig, oni bai eu bod wedi eithrio o'r drefn.
O'r 31 o bobl fu farw ac y cafodd eu horganau eu defnyddio rhwng Rhagfyr a Mai, doedd 10 heb fynegi penderfyniad naill fordd na'r llall.
Mae'r ffigwr yn cymharu â 23 o bobl roddodd organau yn yr un cyfnod yn 2014/15 a 21 yn 2013/14
Yn ôl arolwg gan lywodraeth Cymru, mae mwyafrif y cyhoedd yn ymwybodol o'r newidiadau yn y drefn, gyda 74% yn gallu disgrifio'r system newydd.
"Mae'r modd o roi organau yn gymhleth, ond y cyfnod yma o roi caniatâd yw'r cyfnod pan mae rhan fwyaf o organau yn cael eu colli," meddai Mr Gething.
"Rwy'n hynod o falch fod Cymru yn arwain y ffordd, ac mai ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i dderbyn y drefn o ganiatâd tybiedig.