Crasfa i Gymru o 40-7 yn erbyn y Chiefs
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Trosodd Stephen Donald bedwar o geisiau'r Chiefs.
Mae tîm rygbi Cymru wedi colli'n drwm yn erbyn tîm rhanbarthol y Chiefs ar eu taith yn Seland Newydd.
Y sgôr terfynol oedd 40-7 i'r Chiefs.
Roedd 'na dalcen caled yn wynebu Cymru o'r dechrau, a daeth cais cyntaf y tîm cartref wedi saith munud, wrth i Brad Weber redeg 20 metr i dirio'r bêl.
21-0 oedd y sgôr ar yr hanner wrth i'r Chiefs sgorio dau gais arall.
Daeth rhywfaint o obaith i Gymru ar ddechrau'r ail hanner pan groesodd Kristian Dacey am gais ar ôl 58 munud, cyn i Rhys Priestland ei throsi.
Ond doedd dim ffordd nôl i'r crysau cochion, wrth i James Lowe, Toni Pulu a Sam McNicol hawlio ceisiau i'r Chiefs yn y chwarter olaf.
Ergyd drom felly i hyder tîm Cymru cyn wynebu'r Crysau Duon yn yr ail brawf ddydd Sadwrn.
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Y siom yn amlwg ar wyneb Rhys Priestland, drosodd unig gais Cymru.