Bygythiad i ddyfodol Clwb y Bont
- Published
Mae Clwb y Bont, canolfan gymdeithasol Cymraeg Pontypridd o "dan fygythiad y gallai gau cyn hir" yn ôl neges ar wefan y clwb.
Deellir fod trafferthion ariannol yn bygwth dyfodol y clwb, a bydd pwyllgor y clwb yn cwrdd cyn bo hir i drafod opsiynau ar gyfer dyfodol y ganolfan.
Yn ôl y neges sydd wedi ymddangos ar dudalen Facebook y clwb, mae'r clwb wedi cael trafferthion yn ddiweddar i ddelio gyda materion ariannol ac mae hyn wedi cyrraedd "y pen".
Mae'r neges yn dweud hefyd: "Os yw'r clwb yn mynd, fydd ddim byd tebyg yma fyth eto."
Mae BBC Cymru Fyw wedi cysylltu gyda swyddogion Clwb y Bont am ymateb.
Trafferthion ariannol
Mae un aelod o bwyllgor y clwb sydd am aros yn ddi-enw wedi dweud wrth Cymru Fyw mai arian sydd wrth wraidd y trafferthion, gan ychwanegu bod y clwb yn wynebu problemau fel "bron bob blwyddyn".
Deellir y bydd pwyllgor y clwb yn cwrdd ymhen tua 10 diwrnod pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â'r camau nesaf i'r ganolfan.
Sefydlwyd Clwb y Bont i "hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn ein cymuned leol" meddai gwefan y clwb.
Ar un adeg fe gynhaliwyd llawer o wersi dysgu Cymraeg yno, ond yn ôl y clwb mae'r gweithgaredd yma wedi lleihau yn ddiweddar.
Mae'r clwb yn parhau i fod yn ganolfan gymdeithasol boblogaidd i Gymry Cymraeg yr ardal.