Achos landlord: Smotiau o waed mewn ystafell wely
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonydd fforensig wedi dweud wrth Lys y Goron Abertawe fod 'na ymdrechion wedi bod i lanhau smotiau o waed yn nhŷ landlord gafodd ei ladd gan un o'i denantiaid.
Mae David Craig Ellis wedi cyfaddef dynladdiad ond mae'n gwadu llofruddio Aled Warburton adeg yr haf y llynedd.
Dywedodd Finlay Kennedy, beiolegydd fforensig, wrth y rheithgor iddo ddod o hyd i smotiau o waed ar ddarn o garped, ac is-haenen oedd wedi ei dorri i ffwrdd mewn stafell wely ar lawr gwaelod y tŷ ar Heol Vivian yn Sgeti, Abertawe.
Yn gynharach yn yr wythnos, clywodd y rheithgor mai dyma oedd yr ystafell yr oedd David Ellis wedi cytuno i'w rhentu gan berchennog y tŷ, Alec Warburton.
Smotiau o waed
Dywedodd Mr Finlay fod smotiau o waed y daeth e o hyd iddyn nhw ar frestyn simne yn mynd o'r llawr i fyny at uchder pen, gan ychanegu fod rhai smotiau wedi cyrraedd y nenfwd, sy'n awgrymu "fod y tarddiad yn agos at y llawr".
Clywodd y llys hefyd fod smotiau wedi eu darganfod ar botel o hylif glanhau carped y cafwyd hyd iddo yn yr ystafell wely, yn ogystal ag ar fwrdd ac ar wal uwchben cist o ddroriau.
Dywedodd Mr Finlay wrth y rheithgor ei fod e o'r farn fod yna "ryw fath o ymdrech wedi bod i lanhau'r gwaed" a'i bod hi'n ymddangos fel petai dŵr yn y smotiau.
Ychwanegodd: "Dydy patrwm y gwaed ddim yn fy ngalluogi i ddweud yn bendant fod yna ymosodiad wedi digwydd. Os oedd yna ymrafael treisgar, fe fyddai'n esbonio'r smotiau yn ystafell wely flaen y llawr gwaelod."
Cafodd tystiolaeth ei ddarllen hefyd ar ran Daniel Beaumont, y gwyddonydd fforensig a archwiliodd gar Alec Warburton.
Clywodd y rheithgor fod olion gwaed wedi eu darganfod y tu fewn i gist y Peugeot 205.
Dywedodd Mr Beaumont fod y samplau gwaed a gymerwyd o'r cerbyd yn cydfynd â phroffeil DNA Alec Warburton.
Clywodd y llys hefyd fod olion bysedd y diffynydd, David Ellis, hefyd wedi eu darganfod yng nghar Mr Warburton.
Mae'r achos yn parhau.