Storm yn achosi llifogydd yn ardal Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae tywydd gwael wedi achosi trafferthion yn ardal gogledd ddwyrain Cymru brynhawn dydd Mawrth.
Cafodd toeau nifer o siopau yng Ngwersyllt eu difrodi gan storm daranau, ac mae'r mwyafrif ohonyn nhw wedi cau am y rhan fwyaf o'r prynhawn.
Mae nifer o ffyrdd ar gau oherwydd llifogydd gan gynnwys rhan o'r B5101 lle mae'r heddlu wrthi yn helpu gyrwyr.
Yn ardal Bagillt, Sir y Fflint, a Gwersyllt, Wrecsam mae Gwasanaeth Tân ag Achub Gogledd Cymru yn delio â nifer o achosion o lifogydd.
Maen nhw hefyd yn ymchwilio i achos tân mewn tŷ yn Hen Rhosrobin ger Wrecsam am 14:20 a allai fod wedi ei gynnau gan fellt. Mae'r tân dan reolaeth erbyn hyn.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod ardal o bwysedd isel yn symud yn araf dros y wlad, ac roedd hyn, a'r ffaith fod y tymheredd yn codi, yn achosi'r tywydd "ansefydlog".
Mae 'na rybudd heno am gawodydd trymion mewn sawl man yn y gogledd a'r canolbarth, gyda chenllysg a tharanau ac fe all hyn achosi llifogydd.