ACau yn mynnu atebion gan y BBC

  • Cyhoeddwyd
BBC Llandaff

Mae 41 o ACau wedi arwyddo llythyr at bennaeth y BBC, Tony Hall, yn mynnu'i fod yn "benodol" ynglŷn â faint yn union o arian ychwanegol fydd yn dod i BBC Cymru.

Mae dwy flynedd ers i'r Arglwydd Hall gydnabod mewn araith yng Nghaerdydd nad oedd digon o arian yn cael ei wario ar raglenni Saesneg o Gymru.

Ym mis Mai fe wnaeth Arglwydd Hall ysgrifennu at y Prif Weinidog Carwyn Jones, gan ddweud fod y Gorfforaeth yn bwriadu darparu arian ychwanegol i'r BBC yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn y llythyr at Arglwydd Hall dywed yr ACau fod angen i'r BBC fod yn glir ynglŷn â faint yn union yn ychwanegol fydd ar gael.

Mae 41 AC o bleidiau Llafur, UKIP, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi arwyddo'r llythyr.

'Wedi torri'

Dywedodd Lee Waters, AC Llafur Llanelli: "Dros y 10 mlynedd ddiwethaf mae cyllideb BBC Cymru, a'r nifer o oriau o raglenni mae'n cynhyrchu, wedi'i dorri o chwarter.

"Dwy flynedd yn ôl daeth Tony Hall i Gaerdydd i gydnabod nad oedd y BBC yn gwneud digon i bortreadu Cymru ar y sgrin.

"Mae'n parhau i ddweud yr un peth, ond dyw geiriau ddim yn ddigon; mae'n hen bryd i ni weld yr arian."

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC y byddai "cadarnhad o ble yn union" y byddai arian ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn dilyn "yn y misoedd nesaf".