Cyfradd diweithdra yn ei hunfan
- Cyhoeddwyd

Yn ôl ffigyrau diweddara mae cyfradd diweithdra yng Nghymru wedi aros ar 4.8% rhwng Chwefror ac Ebrill.
Y gyfradd ar gyfer y DU yw 5%.
O'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd mae 22,000 yn llai o bobl yn ddi-waith yng Nghymru, tra bod 42,000 yn fwy mewn cyflogaeth.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y ffigyrau diweddar yn dangos fod Cymru yn perfformio yn well na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
"Ar 4.8% mae diweithdra yng Nghymru yn llai na chyfartaledd y DU am y trydydd mis yn olynol, tra bod cyflogaeth ar ei lefel uchaf erioed.
"Yn y cyfamser, mae buddsoddiad mewnol i Gymru hefyd ar ei record uchaf erioed."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns: "Mae economi Cymru yn ehangu ac mae hynny yn creu marchnad gref ar gyfer swyddi.
"Mae ystadegau heddiw yn dangos fod Cymru yn hyderus, gydag allforion a masnach yn creu llwyddiant."