Ymgyrch Aros ddim wedi ei 'drefnu gan y Sefydliad'

  • Cyhoeddwyd
Cameron a Carwyn

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi gwadu mai ymgyrch "wedi ei drefnu gan y Sefydliad" yw'r ymgyrch i aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Bu'n ymweld â Chymru ddydd Mercher gan rannu llwyfan gyda Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones yng Nghaerdydd. Dyma'r tro cyntaf i'r ddau arweinydd ymgyrchu gyda'i gilydd.

Dywedodd Mr Jones na fyddai nifer o brosiectau, gan gynnwys Metro De Cymru, yn digwydd pe byddai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae ymgyrchwyr Vote Leave Cymru yn dweud bod hyn yn "ddigwyddiad arall sydd wedi ei lwyfannu'n ofalus, ac wedi ei drefnu ymhell oddi wrth y cyhoedd go iawn."

'Rheswm i bobl wrando'

Bydd pleidleiswyr yn penderfynu ddydd Iau nesa' a ddylai Prydain aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd neu adael.

Dywedodd Mr Cameron: "Mae'n bendant yn agos, mae'n ddadl fawr. Mae pobl yn dal i ystyried y cwestiwn. Dw i'n meddwl y byddai Carwyn yn cytuno gyda fi, os ydy pobl yn dweud yn ystod yr etholiad cyffredinol nad ydyn nhw wedi penderfynu sut y byddan nhw'n pleidleisio, mae hynny yn golygu eu bod nhw jest yn bod yn gwrtais. Dydyn nhw ddim yn mynd i bleidleisio ar eich cyfer chi.

"Ond y tro yma dwi wir yn meddwl bod pobl ddim yn siŵr. Maen nhw eisiau clywed y dadleuon, y ffeithiau a'r ffigyrau.

"Ac mae'r ffaith bod gwleidyddion o'r blaid Geidwadol a'r blaid Lafur yn fodlon ymgyrchu gyda'i gilydd ar y mater, gyda'r Gwyrddion a'r Democratiaid Rhyddfrydol, Undebau Llafur, busnesau a chyrff gwirfoddol- dw i ddim yn meddwl bod hynny yn dangos ymgyrch sydd wedi ei drefnu gan y Sefydliad. Dw i'n gweld hynny fel rheswm i bobl wrando."

Dywedodd Mr Jones: "Os chi'n edrych ar rhai o'r cynlluniau ffyrdd, y rhai trafnidiaeth fel Metro De Cymru, allwch chi ddim adeiladu'r rhain heb arian gan yr Undeb Ewropeaidd."

Ychwanegodd: "Beth mae pobl yn dweud yw gadewch i ni neidio o'r graig 'ma gan obeithio bod yna rwyd ar yr ochr arall."

Mae Carwyn Jones wedi dweud yn barod bod y dewis yn y refferendwm yn "foment fwy tyngedfennol" na'r bleidlais yn 1997 pan y cafodd y Cynulliad Cenedlaethol ei sefydlu.

'Codi arswyd'

Beirniadu'r digwyddiad wnaeth Vote Leave Cymru. Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Dyma ddigwyddiad arall sydd wedi ei lwyfannu'n ofalus, ac wedi ei drefnu ymhell oddi wrth y cyhoedd go iawn. Beth mae'r ymgyrch Aros yn ei ofni?

"Mae hi hefyd yn anarferol iawn i weld y Prif Weinidog yn rhannu llwyfan gyda Carwyn Jones, ag yntau'n ddiweddar wedi datgan mai ethol Llywodraeth Lafur am bum mlynedd arall fyddai'r peth mwyaf niweidiol i ddyfodol Cymru."

"O safbwynt Carwyn, fe honnodd e yn ystod yr etholiad cyffredinol y byddai'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn gwneud niwed i Gymru na fyddai modd ei ddadwneud. Mae'n dangos pa mor bell y mae'r criw aros yn fodlon mynd, a'u bod yn barod i ddweud unrhyw beth er mwyn codi arswyd ar bleidleiswyr Cymru.

"Y gwir yw, y dewis diogel yw i bleidleisio dros adael ar 23 Mehefin, fel y gallwn adfer rheolaeth o'n materion ni'n hunain a ffynnu fel gwlad annibynnol."