Rhodd bywyd rhwng dwy chwaer

  • Cyhoeddwyd
Delyth a SharonFfynhonnell y llun, Delyth Jones

Pan glywodd Sharon Jones fod angen aren newydd ar ei chwaer iau, Delyth, wnaeth hi ddim meddwl ddwywaith cyn cynnig trawsblannu un o'i harennau ei hun.

Mae'r ddwy chwaer bellach yn gwella o lawdriniaeth sydd wedi trawsnewid bywyd Delyth a ddaeth yn agos at golli ei bywyd wedi i'w harennau fethu bron i ddwy flynedd yn ôl.

Bu Cymru Fyw yn sgwrsio gyda'r ddwy chwaer sy'n wreiddiol o Fangor ond bellach yn byw 150 milltir ar wahân - Delyth yn Llanfairpwll ym Môn a Sharon yn Merthyr Tudful - am y cwlwm newydd sydd rhyngddyn nhw.

Delyth Jones

"Mi gynigiodd Sharon cyn gynted ag y clywodd hi," meddai Delyth, sy'n 41 am rodd ei chwaer sydd dair blynedd yn hŷn na hi.

"Do'n i ddim yn coelio ei bod hi wedi gwneud y ffasiwn beth. O'n i'n gwerthfawrogi gymaint be oedd hyn yn mynd i feddwl i fi ond i ryw raddau do'n i ddim yn sylweddoli faint o wahaniaeth fydde fo'n ei wneud i fi - dim tan ar ôl y llawdriniaeth."

Dechreuodd problemau iechyd Delyth pan wnaeth haint dŵr achosi gwenwyn gwaed, sepsis, gan arwain at gyflwr prin ond difrifol o'r enw DIC (disseminated intravascular coagulation) sef clotio yn yr arennau sy'n golygu eu bod nhw'n stopio gweithio.

Ar ôl i ambiwlans fynd â hi i'r ysbyty ar frys, dechreuodd ei thraed a'i dwylo droi'n ddu ac fe ymddangosodd brech dros ei chorff i gyd.

Rhoddwyd cyffuriau gwrth fiotig cryf i Delyth i drin yr haint a dywedwyd wrthi bod angen iddi gael dialysis yn syth.

Oni bai iddi gael ei thrin fe fyddai ei holl organau wedi bod mewn perygl o fethu.

Dod drwyddi

"Mi roeddan nhw'n deud wrtha' i wedyn nad oedd ganddyn nhw lawer o ffydd y baswn i'n dod drwyddi," meddai Delyth sy'n fam i Chloe.

"Daeth fy chwaer i fyny o Merthyr ac mi ddudodd hi'n syth, reit, geith hi'n aren i.

"Wedyn o fanna 'mlaen dyma hi wedyn yn cysylltu efo'r nyrs transplant yn Ysbyty Gwynedd a chael profion seicolegol, heb sôn am y profion iechyd ei hunain i weld os oedd hi'n match.

"Ddaru hynna' gymryd yn agos at flwyddyn - yr holl betha' roedd rhaid iddi hi fynd drwyddyn nhw i weld os oedd hi'n mynd i allu byw hefo un aren a'r holl brofion eraill."

Treuliodd Delyth 18 mis yn cael triniaeth dialysis tra roedd Sharon yn cael profion i weld a oedd ei harennau'n addas i'w trawsblannu.

"Mae 'di gwneud gwahaniaeth mawr yn syth.

"Ro'n i'n cael symptoma' ofnadwy, yn ystod y dydd - chronic fatigue a bob man yn brifo drostaf fel pan rydach chi'n cael ffliw drwg - felna oedd hi mwy neu lai drwy'r adeg," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, delyth jones

Werth y byd

Mae'r hyn wnaeth ei chwaer ym werth y byd i Delyth, ond ddim yn benderfyniad i'w wneud ar chwarae bach, meddai.

"Mae o'n benderfyniad mawr i unrhyw un ei wneud, ond iddi ei wneud o mor sydyn. Ro'n i'n poeni i ryw raddau; oedd hi wedi meddwl hyn trwadd yn iawn?

"Ond dydw i ddim yn synnu o ran y teip o berson ydi Sharon. Mae hi'n berson ffeind.

"Da ni wastad di bod reit agos. Mi rydan ni'n debyg - roeddan nhw'n aml yn deud bod ni'n edrych fel efeilliaid er bod tair blynedd rhyngon ni - ond mae o'n bendant wedi'n gwneud ni'n agosach - mae na fond gwahanol rhyngon ni rŵan."

Newid deiet!

Ond mae 'na sgil effaith annisgwyl wedi bod meddai Delyth - mae hi wedi troi o fod yn rhywun sy'n licio bwyd sawrus i fod yn ysu am fwyta fferins - un o wendidau Sharon hefyd. Ac mae hi'n beio aren ei chwaer am ei dant melys newydd!

"Dwi'n damio hi am hynny!" meddai.

"Dwi 'di sylwi ers cael yr aren a dod adra o'r ysbyty mod i'n chwilio am rwbeth melys o hyd, a dim jyst petha fel siocled ond swîts - y licrish coch 'na efo peth gwyn yn y canol!"

A lle roedd hi cynt wrth ei bodd gyda chig oen, fedrith hi ddim meddwl am ei fwyta rŵan - yn union fel Sharon.

"Maen nhw'n dweud ei fod reit gyffredin efo pobl sy 'di cael heart transplant - eu bod nhw'n cymryd rhai agweddau o'r donor sy' 'di pasio - ond does na ddim gymaint o sôn am hynny efo pobl sy' 'di cael aren newydd - ond dwi'n berffaith saff mai dyna ydio," meddai Delyth.

Bydd Delyth i ffwrdd o'i gwaith fel swyddog prawf yn Llys y Goron Caernarfon am gyfnod eto er mwyn gwella yn iawn.

"Mae Sharon 'di rhoi fyny rwbath mawr iawn i fi, felly dwisho edrych ar ei ôl o a gneud yn saff mod i'n holliach i fynd yn ôl yn iawn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Delyth Jones

Sharon Jones

"Mi wnes i ddweud yn syth bin, cyn gynted ac y gwnes i glywad mai'r cwbl oedd hi'n gallu ei gael er mwyn bod yn well oedd cael y llawdriniaeth.

"Wnes i ddim hyd yn oed meddwl a deud y gwir - nes i jyst deud, ia, dora fi ymlaen i weld os fedra i fod yn match," meddai Sharon sy'n gweithio i Capital Radio yng Nghaerdydd yn gwerthu hysbysebion.

Ar ôl gwneud y penderfyniad yn syth a threulio'n agos at flwyddyn yn cael bob math o brofion doedd Sharon ddim yn synnu bod ei haren yn gweddu'n dda i gorff Delyth.

Meddai: "Tasach chi'n gweld y ddwy ohonan ni, 'dan ni'n edrych yr un peth a 'da ni reit debyg mewn bob math o bethau so oedd o bach yn obvious mai fi fysa'r match gora'.

"'Da ni o hyd di bod reit agos, mae 'na bron i bedair blynedd rhyngddon ni a 'da ni o hyd di bod yn dipyn o fêts, a 'da ni'n debyg hefyd."

Bywyd heb dialysis

Mae hithau i ffwrdd o'i gwaith am o leiaf tri mis hefyd ac yn "cymryd un dydd ar y tro" er mwyn gwella.

"Mae'n wahanol i Delyth, roedd hi'n sâl ac yn cael gwneud ei hun yn well, lle ro'n i'n hollol iach ac yn gwneud fy hun yn sâl," meddai.

"Ond mae o werth o'n diwadd achos mae Delyth wedi mynd o fywyd lle roedd hi'n gorfod mynd i dialysis dair gwaith yr wsos i fod yn rhydd o hynny.

"Mai'n gorfod cymryd tabledi bob dydd, ond o leia' dydi hi ddim yn gorfod mynd i'r uned ac ista am oriau ar y peiriannau."

Roedd y llawdriniaeth i dynnu aren Sharon yn cymryd tua phedair awr gyda Delyth yn mynd i'r theatr yn syth ar ei hôl am lawdriniaeth ddwy awr i dderbyn yr aren.

Edrych i'r dyfodol

Wnaeth hi feddwl am y goblygiadau i'w iechyd ei hun yn y dyfodol?

"Ma' nhw'n mynd drwy bob dim felly efo ti ond a deud y gwir nes i ddim meddwl - dwi o hyd di bod yn hogan reit iach ... os dwi'n cael ryw fath o salwch, dwi'n dod drosta fo reit sydyn.

"Mae gynna' i agwedd 'get up and go' mewn bywyd - 'sgynna' i ddim amser i fod yn sâl!

"Ond mi fyddan 'nhw'n checio arna i bob blwyddyn i wneud yn siŵr fod bob dim yn iawn ac os fysa rhywbeth yn digwydd i fi, mi fysan nhw'n fy rhoi i ar y rhestr yn syth bin i gael trawsblaniad yn y dyfodol."

Yr unig effaith meddai Sharon ydy bod yn rhaid iddi fod yn fwy gofalus gyda phethau fel tabledi lladd poen ac alcohol a cheisio byw bywyd iach gan fod yr un aren sydd ganddi ar ôl yn gorfod gweithio'n galetach.

Mae'r holl brofiad wedi gwneud i Sharon edrych ar fywyd yn wahanol ac mae ganddi agwedd bositif iawn ar fywyd.

Meddai: "Ti jyst yn goro meddwl reit, un 'go' sy' gynnai yn y lle 'ma, rhaid iti neud be' bynnag fedri di ohono fo.

"Os tisho mynd i neud rwbath dos i neud o a phaid a phoeni.

"Nid gwneud pres ydi bob dim, mae isio byw bywyd hefyd, hyd yn oed os wyt ti jyst yn mynd am bicnic fyny'r lôn efo'r ci a dy bartner - dos i enjoio dy hun achos fedri di gael dy gymryd o'r lle 'ma mor sydyn."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol