Gem gyntaf Abertawe v Burnley y tymor nesaf
- Published
image copyrightReuters
Bydd Abertawe yn chwarae i ffwrdd yn Burnley ar benwythnos cyntaf tymor nesa'r Uwch Gynghrair ar Awst 13.
Eu gem gyntaf yn y Stadiwm Liberty fydd yn erbyn Hull ar Awst 20.
Gorffennodd yr Elyrch yn y 12fed safle y tymor diwethaf yn yr Uwch Gynghrair gyda 47 o bwyntiau ar ôl gem gyfartal 1-1 yn erbyn Manchester City yn Abertawe.
Bydd tîm Francesco Guidolin yn wynebu'r pencampwyr Leicester City ar Awst 27 yn stadiwm King Power.