A5 wedi cau ar ôl gwrthdrawiad angheuol ym Mhentrefoelas
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A5 ym Mhentrefoelas, Sir Conwy, bore Mercher.
Mae'r ffordd wedi cau yn dilyn y ddamwain .
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng tri char am 08:41 ddydd Mercher milltir i'r de o Bentrefoelas.
Aethpwyd ag un person mewn ambiwlans awyren i Ysbyty Glan Clwyd a pherson arall i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Mae'r heddlu, sy'n ymchwilio i'r digwyddiad, yn dargyfeirio traffig ym Mhont Waterloo, Betws y Coed ac ym mhentre Pentrefoelas oherwydd bod yr A5 wedi cau.