Drychwch pwy 'sydd 'da fi!
- Cyhoeddwyd

Ian Rush yn dathlu buddugoliaeth Cymru gyda Colin Barker a'i ffrindiau o Gaernarfon
Mi osododd Catrin Heledd her fawr ar eich cyfer. Ond chwarae teg rydych chi wedi cael hwyl ragorol ar dynnu hunluniau gydag enwogion yn ystod Pencamwpriaeth Pêl-droed Euro 2016. Dyma i chi ddetholiad o'r 'selfies' sydd wedi ein cyrraedd o bell ac agos:
Sian wedi dotio ar gyn ymosodwr Cymru, Craig Bellamy
Esyllt Mair yn cael cwmni'r darlledwr a'r digrifwr Owen Money yn Ffrainc
Dau John am bris un! John Pugh o Flaenau Ffestiniog efo'r sylwebydd a chyn-ymosodwr Cymru, John Hartson
Robbie Savage, y sylwebydd a chyn-chwaraewr canol cae Cymru, yn cael gwersi cynganeddu gan Y Prifardd Llion Jones
Mae Lowri Pugh Jones wedi mentro i'r 'coridor ansicrwydd' i gael llun gyda chyn-ymosodwr Cymru Malcolm Allen
Darren Parry o Borthmadog yn trên-io efo Arsenal ar y ffordd i Ffrainc. Ydy o wedi creu argraff ar Arsene Wenger 'ta ydy ei yrfa bêl-droed o wedi cyrraedd pen y twnel?
Y digrifwr Elis James gyda'r actor a'r cyfarwyddwr ffilm Jonny Owen
Roedd Jamie Atherton o Drawsfynydd ar wîb i gael y llun yma gyda'r cyn-asgellwr rygbi Shane Williams
Gareth a Llŷr Williams efo cyn-reolwr Lloegr Glenn Hoddle. Mae gwên y sais yn dipyn lletach erbyn hyn!
Sut hwyl gewch chi?
Gallwch anfon eich lluniau at Cymru Fyw trwy eu hanfon i'n tudalen Facebook neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw gan ddefnyddio #CymruFyw. Croeso i chi eu hanfon hefyd ar e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk