Coleman: 'Gall y tîm godi eto'
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr a chapten tîm pêl-droed Cymru wedi mynnu y gall y tîm godi eto a chyrraedd y rownd nesaf yn Euro2016 gyda chymorth y cefnogwyr.
Cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Lens ddydd Iau, roedd UEFA wedi dynodi'r gêm yn un 'risg uchel', ac roedd plismona'r gêm yn adlewyrchu hynny.
Gyda chefnogwyr y ddau dîm yn groch yn y stadiwm, ni welwyd unrhyw drafferthion yn y stadiwm Bollaerts-Delelis, nac ar strydoedd y dref yn syth wedyn.
Yn wir y cyfan oedd i'w weld wrth gerdded drwy Lens oedd grwpiau o gefnogwyr y ddwy wlad gyda'i gilydd mewn bariau, ac wrth i nifer gyrraedd nôl i Lille, roedd yr un peth yn wir yno wrth iddi nosi.
Ar ddiwedd y gêm aeth tîm Cymru i gyd draw at y cefnogwyr i ddiolch - ar adegau roedd hi'n anodd derbyn mai dim ond rhyw chwarter y seddi yn y stadiwm oedd gan gefnogwyr Cymru.
O ran mynd ymlaen yn y gystadleuaeth, mae tynged Cymru yn dal yn eu dwylo eu hunain.
Byddai buddugoliaeth yn erbyn Rwsia yn y drydedd gêm yn Toulouse ddydd Llun yn sicrhau y bydd Cymru yn gorffen yn ail yn y grŵp o leia...os na fydd Lloegr yn curo Slofacia, mae'n dal yn bosib i dîm Chris Coleman ennill y grŵp.
Mewn cynhadledd newyddion wedi'r gêm dywedodd ei fod yn falch fod y gêm yma o'r ffordd:
"Wrth gwrs mae'n siomedig colli ar ôl bod ar y blaen ar yr egwyl, yn enwedig y modd y collon ni yn yr eiliadau olaf.
"Ond er bod llawer adre yn gweld hon fel rhyw fath o 'Battle of Britain', dim ond yr ail gêm o dair oedd hi.
"Pe bai rhywun wedi dweud cyn y gystadleuaeth y bydden ni a chyfle i gyrraedd y rownd nesa gydag un gêm yn weddill, fe fydden i wedi bod yn ddigon hapus, a dyna'r sefyllfa nawr," meddai.
"Fe wnaeth Lloegr ildio yn y funud olaf yn erbyn Rwsia, ac fe ddangoson nhw lot o gymeriad i ddod yn ôl heddiw - rhaid i ni wneud yr yn peth yn erbyn Rwsia, ac rwy'n siŵr y gallwn ni wneud hynny."
Mae tîm Cymru wedi dychwelyd i'w gwersyll ymarfer yn Dinard yn Llydaw cyn teithio i Toulouse ddydd Sul.