Gwasanaeth trenau wedi amharu rhwng De Cymru a Llundain

  • Cyhoeddwyd
gwr train

Dim ond hanner y nifer o drenau arferol sy'n teithio rhwng De Cymru a Llundain Paddington ddydd Gwener.

Dywedodd Great Western Railway bod y gwasanaeth yn dal i gael ei amharu ar ôl i drên gwag fynd oddi ar y cledrau nos Iau ger gorsaf Paddington.

Mae amserlen newydd wedi rhoi yn ei lle am fod dwy lein i mewn i'r orsaf yn dal wedi cau.

Meddai llefarydd ar ran GWR:" Mae'n flin gennym am yr oedi parhaus mae hyn yn achosi i'n cwsmeriaid. Rydym yn gweithio gyda Network Rail i ddod a phethau yn ôl i normal cyn gynted ag sydd bosib.

"Mae nifer o'n gwasanaethu yn dal i weithredu fel arfer, ond gall y rhain fod yn fwy prysur nag arfer felly rydym yn annog ein cwsmeriaid i wirio cyn teithio."

Fe allai rai teithwyr gafodd eu heffeithio gan drafferthion Ddydd Iau fod yn gymwys am iawndal, ac fe allai rhai sydd yn dewis peidio teithio hawlio eu harian yn ôl.