Llofruddiaeth Llanedern: Cyhuddo dyn
- Published
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth Lynford Brewster yn Llanedern, Caerdydd nos Sadwrn wedi cyhuddo dyn o lofruddiaeth.
Bydd Dwayne Edgar, 29 oed o Lanedern yn ymddangos gerbron ynadon yng Nghaerdydd ddydd Gwener.
Cafodd dau ddyn arall o Gaerdydd sy'n 19 a 35 oed, gafodd eu harestio mewn perthynas a'r digwyddiad, wedi'u rhyddhau ar fechniaeth.
Mae dyn arall 22 oed o Kidderminster wedi cael ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad sy'n parhau.