Cynghorydd yn ildio'r awennau
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cynghorydd Eurig Wyn wedi penderfynu ildio'r awenau fel cynrychiolydd Plaid Cymru Waunfawr ar Gyngor Gwynedd am resymau personol.
Enillodd Mr Wyn sedd Waunfawr yn Etholiad Cyngor Gwynedd yn 2012.
Bu'n gynrychiolodd Cymru fel Aelod o Senedd Ewrop rhwng 1999 a 2004 ac mae hefyd wedi bod yn Gynghorydd Cymuned Waunfawr ers nifer o flynyddoedd.
Cychwynnodd ei yrfa wleidyddol gyda'r hen Gyngor Sir Gwynedd yn 1989.