Llanedern: Cyhuddo dyn 29 o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ymddangos gerbron Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddio dyn arall yn y ddinas.
Mae Dwayne Edgar, 29 o Lanedern wedi ei gyhuddo o lofruddio Lynford Brewster ddydd Sul.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 20 Mehefin.
Mae dau ddyn arall o Gaerdydd sy'n 19 a 35 oed, gafodd eu harestio mewn perthynas â'r digwyddiad, wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth.