Gwrthdrawiad angheuol: Cyhoeddi enw

  • Cyhoeddwyd
pentrefoelasFfynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A5 ym Mhentrefoelas, ger Betws y Coed fore Mercher.

Roedd Ifor Edward Davies yn 59 ac yn byw yn lleol.

Mae'r heddlu yn parhau i pelio am dystion i'r gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd, Rover 25, Ford Focus a cherbyd amaethyddol, milltir i'r de o Bentrefoelas

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 a defnyddio'r cyfeirnod U087635.