A5: Ymchwiliad i wrthdrawiad angheuol
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol yng Ngherrigydrudion fore Iau.
Dywedodd llefarydd fod dynes a phlentyn wedi eu cludo i'r ysbyty gyda'r hyn a gredir ar y pryd oedd yn fan anafiadau.
Ond ychwanegodd fod gyrrwr un o'r ceir yn y feichiog ac "yn anffodus ni wnaeth y babi oroesi ac felly rydym yn trin y digwyddiad fel gwrthdrawiad angheuol.
"Nid ydym yn gallu datgelu mwy o fanylion am y ddynes, ond nid yw hi'n byw yn lleol."
Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng Volkswagen Golf glas a Citroen Xsara gwyn ar yr A5 dwy filltir o Gerrigydrudion am 06:41.
Aed â'r ddynes feichiog i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Ychwanegodd y llefarydd: "Oherwydd pryder am ei chyflwr cafodd lawdriniaeth Cesaraidd, ond yn anffodus nid oedd modd achub y babi."
Cafodd plentyn 15 mis oed oedd yn teithio yn y Golf hefyd ei gludo i'r ysbyty gyda man anafiadau.
Ni chafodd unrhyw un arall ei anafu yn y digwyddiad.
Dywedodd sargant Gwyndaf Jones: "Rydym yn apelio am unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â ni. Yn anffodus nid oedd modd achub y babi ac mae ein cydymdeimlad gyda'r teulu."