`Cynlluniau Asthma`: Galw am gysondeb

  • Cyhoeddwyd
pwmp asthma
Disgrifiad o’r llun,
pwmp asthma

Mae meddyg blaenllaw ym maes plant wedi galw am gysondeb wrth lunio cynllun asthma i blant, fel sy'n cael ei gymeradwyo gan Nice.

Yn ôl Dr Iolo Doull, sy'n arbenigwr ysgyfaint plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, dylai pob plentyn sy'n cael diagnosis asthma gael cynllun pwrpasol ar gyfer eu gofal yn dilyn cyngor Nice, y corff sy`n arolygu safonau iechyd a gofal.

Mae asthma mor gyffredin fel bod yna bryderon am ddifaterwch, gyda pobl yn anghofio y gallai ladd y rhai sy`n dioddef.

Yng Nghymru, mae cyfartaledd o tua dau blentyn yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i`r cyflwr, gyda nifer mwy yn gorfod treulio amser mewn ysbyty.

Codi pryderon am ddifaterwch

Mae Asthma UK yn amcangyfrif bod gan 59,000 o blant 15 oed a iau yng Nghymru asthma - tri ym mhob ystafell ddosbarth ar gyfartaledd.

Yn 2014 fe wnaeth Coleg Brenhinol y Meddygon gyhoeddi adolygiad ar farwolaethau yn ymwneud â asthma oedd yn codi pryderon am ddifaterwch am y cyflwr, gan nodi'r angen am fwy o hyfforddiant, monitro ac addysg.

Mae mwy yn marw yng Nghymru a`r DU na gweddill Ewrop, gyda`r ffigwr bump gwaith yn fwy yma na gwledydd fel Sweden, Portiwgal, yr Almaen a`r Eidal er gwaethaf gwelliannau mewn meddyginiaeth a chanllawiau newydd.

Yn ol Dr Doull, bach iawn yw'r wybodaeth am y cynlluniau asthma yng Nghymru.

Dywedodd wrth raglen Eye On Wales, BBC Cymru, mai asthma yw`r cyflwr cronig mwya cyffredin ymysg plant.

"Mae`n gallu effeithio`n fawr ar fywydau bob dydd plant a`u teuluoedd. Mae'n gallu arwain at farwolaeth. Mae`n broblem fawr ac fe ddylid ei gymryd o ddifri.

"Dwi o'r farn y dylai pob claf gyda asthma gael cynllun gweithredu - chi`n rhoi gwybodaeth a chyfarwyddiadau clir ynlgŷn â beth i`w wneud a phryd i ofyn am gymorth meddygol. "

Mae Dr Doull yn cadeirio tîm sydd â'r dasg o ddatblygu canllawiau ar sut i wella gwasanaethau i blant ag asthma yng Nghymru. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn yr haf.

Ffynhonnell y llun, BBC Sport

Cefnogi`r alwad

Mae teulu Geraint Richards 13 oed o Ben-y-bont ar Ogwr yn cefnogi`r alwad i beidio bod yn ddifater am asthma.

Ddwy flynedd yn ôl fe gafodd bwl difrifol o asthma.

Wedi methu ymateb i`r driniaeth fe gafodd drawiad ar y galon wnaeth arwain at niwed parhaol i'r ymennydd.

Yn ôl ei rieni Chris a Julie Richards doedd ganddo ddim cynllun gweithredol i ymdopi gyda`r asthma, ac maen nhw nawr yn credu ei fod yn defnyddio ei declyn i lacio`r symptomau yn rhy aml.

Disgrifiad o’r llun,
Teulu Geraint Richards

Angen claf i hunan reoli`r cyflwr

Un wlad sydd wedi lleihau nifer y bobol sy`n gorfod chwilio am gymorth meddygol yn sgil asthma yw'r Ffindir.

Yn ôl Dr Tari Haahtela, o Athrofa Prifysgol Helsinki, mae hyn wedi digwydd yn sgil cyfuniad o ddiagnosis cynnar a thriniaeth, a hefyd gwell set o ganllawiau ar y ffordd y gall claf reoli'r cyflwr ei hun.

"Bellach does yna yr un person o dan 40 yn marw o asthma. Mae nifer yr ymweliadau brys i`r ysbyty hefyd wedi lleihau o 50 - 60%. "