Seremonïau er cof am Jo Cox
- Published
Cynhaliwyd seremonïau yn Llangefni ac yng Nghasnewydd er cof am yr Aelod Seneddol Jo Cox yn dilyn ei marwolaeth dydd Iau.
Cafodd Ms Cox ei saethu a'i thrywanu yn Birstall, Swydd Efrog.
Roedd degau o bobl, gan gynnwys y gwleidyddion Albert Owen AS a Rhun ap Iorwerth AC, yn sgwâr Llangefni Ynys Môn wrth i bobl gofio am yr Aelod Seneddol Llafur.
Yng Nghasnewydd cynhaliwyd gwylnos dydd Sadwrn gyda chynrychiolwyr nifer o grefyddau yn bresennol.
Neithiwr yng Nghaerdydd fe gynhaliwyd gwylnos y tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Roedd cannoedd yn bresennol yno ac roedd tua 150 o bobol mewn digwyddiad yn Abertawe.
Ymddangosiad Llys
Mae dyn 52 oed wedi ymddangos ger bron llys yn Llundain i wynebu cyhuddiad o lofruddio Mrs Cox.
Gorchmynnwyd cadw Thomas Mair yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos ger bron llys yr Old Bailey dydd Llun.