Bachgen yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Aberdaugleddau

  • Cyhoeddwyd
damwainFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y bachgen ei daro ar Ffordd y Gogledd yn Aberdaugleddau.

Mae bachgen 11 oed yn ddifrifol wael yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gar yn Sir Benfro.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 14:50 wedi'r digwyddiad ar Ffordd y Gogledd neu'r Great North Road yn Aberdaugleddau.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y bachgen wedi ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a'i fod mewn cyflwr difrifol.