Gig SFA'n 'tynnu'r pwysau' oddi ar nos Lun
- Cyhoeddwyd

Mae'n brofiad "hudol" gallu dilyn tîm pêl-droed Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc, medd aelodau'r Super Furry Animals.
Fe ddaeth hyd at 20,000 i wylio'r band yn perfformio yn Toulouse nos Sadwrn, ddeuddydd cyn y gêm dyngedfennol rhwng Cymru a Rwsia yn y ddinas ddydd Llun.
Fel rhan o'u set, fe berfformion nhw eu cân nhw ar gyfer y bencampwriaeth, Bing Bong.
Carl Roberts yn holi'r Super Furry Animals cyn y gig nos Sadwrn.
Mewn cyfweliad cyn y gyngerdd, dywedodd y canwr Gruff Rhys fod perfformio yn Toulouse y penwythnos cyn y gêm yn "gyd-ddigwyddiad arallfydol".
Ac o ofyn a oedd yn anodd canolbwyntio ar y gig o gofio'r gêm sydd i ddod, roedd yn anghytuno: "Mae'n tynnu'r pwysau oddi ar y poeni a'r galaru. Mae cael rhywbeth i'w wneud yn helpu, dwi'n meddwl."
Mae'r basydd, Guto Pryce, wedi bod yn dilyn Cymru er pan oedd yn blentyn. Roedd e yn Bordeaux ar gyfer gêm Cymru Slofacia: "Roedd Bordeaux jyst yn un o'r dyddiau anhygoel yna.
"Cymaint o bobl, roedd o'n ecsodus go iawn. Lot o deulu a ffrindiau allan yna. Dinas hyfryd."
Yng nghanol y miloedd oedd yn gwylio'r Super Furry Animals yn y gig nos Sadwrn oedd Dylan Ebenezer, cyflwynydd rhaglenni S4C o Euro 2016.
Ag yntau wedi dilyn y band dros y blynyddoedd, roedd y perfformiad neithiwr, meddai, yn un unigryw: "Dwi wedi gweld y Furries ym mhob math o leoliadau - o'r Cnapan yn Ffostrasol i'r Royal Festival Hall.
"Roedd pob gig yn wych, ond roedd eu gweld nhw yn Toulouse neithiwr yn rhyfeddol.
"Roedd e fel gêm bêl-droed heb gêm."