Paratoi ar gyfer 'y gêm bwysicaf ers dros 50 mlynedd'
- Cyhoeddwyd

Mae yna bryder i'w deimlo o gwmpas dinas Toulouse, a hynny am fwy nag un rheswm.
Ar y cae nos Lun mae'r gêm bwysicaf yn hanes pêl-droed Cymru ers ymhell dros hanner canrif.
Ond oddi ar y cae, mae cyhoeddiad yr awdurdodau yn Ffrainc bod y gêm bellach yn cael ei dynodi yn lefel 3 (o 4) o safbwynt diogelwch hefyd yn destun anniddigrwydd.
Wrth gerdded o gwmpas y ddinas a siarad gydag ambell gefnogwr o Gymru, mae'r teimladau yn gymysg. Fe allen nhw fod yma i weld eu tîm yn cyrraedd y rownd nesa, ond mae golygfeydd cywilyddus Marseilles yn dal yn fyw yn y cof.
Mae'n ymddangos bod llawer o gefnogwyr Rwsia naill ai wedi dewis cyrraedd y ddinas yn hwyr, neu yn cadw allan o'r golwg tan ddiwrnod y gem... ychydig iawn sydd i'w gweld yng nghanol Toulouse.
Bydd y mesurau diogelwch ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth, ond hefyd yn debyg o achosi anawsterau i gefnogwyr y ddwy wlad.
Mwy o heddlu
Dywedodd Vince Alm o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Pel-droed Cymru: "Mae llawer mwy o heddlu arfog o gwmpas y stadiwm a'r ddinas nag ydyn ni wedi gweld mewn dinasoedd eraill, a mwy o fesurau diogelwch eraill hefyd.
"Er enghraifft fe fydd hi'n cymryd llawer mwy o amser i fynd i mewn i'r stadiwm oherwydd bydd staff diogelwch yn gwirio pawb yn ofalus i sicrhau nad oes tan gwyllt, fflers ac ati yn dod i mewn.
"Fe allai hynny olygu bod pobl yn ciwio am hir i fynd i mewn felly fy nghyngor i yw i gefnogwyr gyrraedd y stadiwm mewn digon o amser - mae'r drysau'n agor dair awr cyn y gic gyntaf, felly ewch yn fuan."
Yn y gêm rhwng Croatia a'r Weriniaeth Tsiec dridiau yn ôl, fe gafodd nifer o fflers eu taflu ar y cae gan gefnogwyr Croatia fel rhan o brotest, ac roedd Vince Alm yn bryderus am hynny.
"Ddylen nhw ddim fod wedi llwyddo i gael i mewn i'r cae, ond ry'n ni'n obeithiol bod y mesurau ychwanegol yma yn Toulouse yn atal hynny rhag digwydd eto," meddai.
"Fe fydd yn golygu ciwio, ond yn bersonol os oes rhaid i mi giwio am awr a gwybod bod dim pethau felly yn y cae, fe fyddai'n hapusach."
Joe Allen yn edrych 'mlaen at gêm Rwsia
Y fathemateg
Ar y cae, mae tynged Cymru yn eu dwylo eu hunain.
Fel y dywedodd Chris Coleman yn syth wedi'r golled yn erbyn Lloegr, roedd llawer wedi rhoi gormod o bwyslais ar y gêm honno lle, mewn gwirionedd, mae'r gemau grŵp i gyd mor bwysig a'i gilydd.
Mae'r mathemateg yn weddol syml - ennill ac fe fydd Cymru yn y rownd nesaf; gêm gyfartal, ac mae cyrraedd yr 16 olaf yn dal yn debygol iawn.
Ond os yw Cymru'n colli, mae'n mynd yn anoddach. Pe bai hynny'n digwydd a Slofacia'n llwyddo i gipio pwynt yn erbyn Lloegr, yna fe fyddai Cymru allan.
Os bydd Cymru a Slofacia'n colli, fe fydd Cymru'n gorffen yn drydydd yn y grŵp ac yn gorfod aros tan nos Fercher i wybod a fydd eu record yn ddigon da i aros yn Ffrainc.
Does wybod be fydd hynny'n gwneud i nerfau'r cefnogwyr, felly y neges glir i dim Cymru yw 'Peidiwch colli!'
Wedi'r cyfan mae'r gân sy'n atseinio drwy bob stryd yn Toulouse bron yn ategu'r neges - dyw'r cefnogwyr ddim yn barod i ddod adre eto.