Refferendwm UE: Effaith gadael ar Gymru

  • Cyhoeddwyd
Refferendwm UE

Dyddiau'n unig sydd yn weddill cyn y refferendwm.

A fydd partneriaeth rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd sydd wedi para 43 o flynyddoedd yn dod i derfyn neu'n symud ymlaen?

Yn ôl yr arolygon barn - nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws Prydain - mae yna awgrym mai cael a chael yw hi rhwng y naill ymgyrch a'r llall.

O ganlyniad, mae rhai'n ystyried beth fyddai fyddai goblygiadau pleidlais dros 'Brexit' ar Fehefin y 23ain. Beth am Gymru a'r Cynulliad?

Disgrifiad o’r llun,
Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru mae yna sawl perygl sy'n wynebu'r wlad petaen ni'n pleidleisio dros adael - pryderon sy'n cael eu gwrthod, wrth gwrs, gan ymgyrchwyr sydd am weld hynny'n digwydd.

Ond beth os yw Cymru'n pleidleisio i aros, ond y Deyrnas Unedig gyfan yn pleidleisio dros adael?

Fe fyddai hynny'n achosi "argyfwng cyfansoddiadol", meddai Carwyn Jones.

"Fyddai'r Deyrnas Unedig ddim yn gallu parhau yn ffurf bresennol os yw Lloegr yn pleidleisio dros adael ond bod pawb arall yn pleidleisio dros aros," ychwanegodd Mr Jones.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi galw am feto ar gyfer Cymru er mwyn osgoi'r fath sefyllfa.

'Codi cwestiynau'

"Fe fyddai'r fath sefyllfa'n sicr yn codi cwestiynau," meddai Steffan Evans o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mae'r arolygon barn yn awgrymu bod Cymru bach mwy tebygol na Lloegr o bleidleisio mewn, ond does yna ddim gwahaniaeth mawr.

"Yn sicr, yn yr Alban, lle mae'r arolygon barn yn awgrymu fwy o gefnogaeth i'r Undeb Ewropeaidd, oherwydd y gefnogaeth dros annibyniaeth, mae'n amlwg y byddai'r fath sefyllfa yn arwain at bwysau i gynnal ail refferendwm.

"Ond os yw'r canlyniad yn agos iawn yng Nghymru, a fyddai'r cyhoedd yn rhoi pwysau ar y gwleidyddion i newid neu ddatblygu'r setliad yma?"

Yn hytrach na rhoi siglad i'r cyfansoddiad, fe fyddai "datganoli go iawn" yn digwydd i Gymru os bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,
Nathan Gill.

Dywedodd Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru, y byddai cyfrifoldebau ffermio, pysgota a busnes yr UE yn cael eu trosglwyddo yn syth yn nôl o Frwsel i Fae Caerdydd.

Wfftio hynny wnaeth y grŵp 'Cymru yn gryfach yn Ewrop,' ac mae'n rhaid pwysleisio mai penderfyniad i lywodraeth Ceidwadol y Deyrnas Unedig fyddai hynny.

Dywedodd Steffan Evans: "Yn amlwg, dim UKIP sy'n llywodraethu yn San Steffan ac fe fyddai angen mwyafrif yn y Senedd er mwyn gwneud hynny.

"Ond efallai y byddai yna fwy o awydd i drosglwyddo'r pwerau o Frwsel i Gymru.

"Mae'r trafferthion sydd yna am ddatganoli pwerau o San Steffan i Gymru ar hyn o bryd yn ymwneud â phwerau sydd eisoes dan rheolaeth San Steffan ar hyn o bryd.

"Ond mae'n haws datganoli rhywbeth chi erioed wedi rheoli," ychwanegodd.

Posibiliadau damcaniaethol yw rhain ar hyn o bryd.

Fe fyddwn ni'n gwybod ar fore Mehefin y 24ain beth fydd realiti perthynas y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.