Glaw yn dod â'r chwarae i ben rhwng Morgannwg a Chaint
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Llwyddodd Chris Cooke i sgorio 42 i Forgannwg cyn i'r glaw atal y gêm.
Ar ôl dechrau gwan, daeth Morgannwg yn ôl a sgorio 93-2 yn erbyn Caint yng ngêm ail adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Sul.
Er gwaethaf colli dwy wiced yn y ddwy belawd gyntaf, fe gafodd sefyllfa Morgannwg ei chryfhau dipyn wrth i Will Bragg a Chris Cooke sgorio cyfanswm o 75 rhediad.
Ond bu'n rhaid dod â'r chwarae yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd i ben oherwydd y glaw.
Y sgôr ar ddiwedd diwrnod cynta'r chwarae oedd 93-2 i Forgannwg.