Ched Evans i ymuno gyda Chesterfield
- Cyhoeddwyd

Bydd y pêl-droediwr Ched Evans yn ymuno gyda chlwb Chesterfield yn yr Adran Gyntaf er ei fod yn wynebu achos o dreisio.
Cafodd y cyn ymosodwr gyda Chymru ei garcharu yn 2012 am dreisio merch 19 oed, ond fis Ebrill fe enillodd ei apêl, ac fe fydd achos llys newydd yn cael ei gynnal yn ei erbyn ym mis Hydref.
Cafodd y chwaraewr rhyngwladol ei ryddhau o'r carchar yn 2014 wedi iddo dreulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo.
Mae Ched Evans, sy'n 27 oed, wastad wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Cynhyrfus a breintiedig
Mae Chesterfield wedi gofyn i Ched Evans gael llonydd i ganolbwyntio ar hyfforddi gyda'r clwb cyn i'r tymor newydd ddechrau.
Dywedodd cadeirydd Chesterfield, Dave Allen ei fod "yn falch o sicrhau gwasanaeth y pêl-droediwr ardderchog, sydd bellach yn awyddus i ddychwelyd i'w waith a sgorio goliau."
Dywedodd Ched Evans ei fod yn gynhyrfus a breintiedig i allu ail afael yn ei yrfa yn Chesterfield.
"Dwi'n gobeithio y medraf wneud cyfraniad gwerthfawr ar ac oddiar y cae i'r clwb, y cefnogwyr a'r gymuned. "
Llys Apêl
Cafodd ei achos ei gyfeirio at y Llys Apêl gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC), sy'n ymchwilio i achosion posibl o gamweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar ôl i dystiolaeth newydd ddod i'r amlwg.
Roedd panel o dri barnwr wedi penderfynu yn y gwrandawiad i ganiatau' r ail achos, ar ôl gwrando ar dystiolaeth newydd gan gyfreithwyr Evans.
Dywedodd yr Arglwyddes Ustus Hallett, wrth gyhoeddi penderfyniad y llys, "I grynhoi, rydym wedi dod i'r casgliad bod yn rhaid i ni ganiatáu'r apêl a'i fod er budd cyfiawnder i orchymyn ail achos."
Roedd cyn chwaraewr Manchester City, Norwich a Sheffield United wedi dod yn agos i arwyddo i glwb Oldham Athletic ym mis Ionawr 2015, cyn i'r clwb ail feddwl wedi i staff gael eu bygwth ac yn sgil pwysau wrth noddwyr oedd yn gwrthwynebu'r penodiad.